Mae pobol o fyd teledu wedi bod yn talu teyrnged i Mervyn Williams, cyn Bennaeth Cerdd BBC Cymru, a sylfaenydd y cwmni teledu annibynnol Opus. Ymhlith ei gyfraniadau, ef a gafodd y syniad ar gyfer Cystadleuaeth Canwr y Byd.

Gweledigaeth

Mervyn Williams oedd wedi cyflogi Hefin Owen yn y BBC, cyn i’r ddau sefydlu Opus gyda’i gilydd a bod yn bartneriaid busnes am fwy nag 20 mlynedd. Roedd hefyd yn gwmnïwr da, yn ffan Lerpwl a sosialydd.

“Mae llawer o sôn am gyfraniad Mervyn fel sefydlydd BBC Canwr y byd. Ond roedd llawer mwy i iddo na hynny.

“Roedd ganddo’r gallu i weld sut yr oedd y diwydiant teledu’n siapio’n bell o flaen ei amser. Weithiau, doedd pobl ddim yn deall pam yr oedd e’n gwneud y penderfyniadau yr oedd o. Roedd gweledigaeth unigryw ganddo.”

“Wrth ystyried comisiynu gwaith cerddorol, roedd o wastad yn pwysleisio fod y gwaith yn byw yn bell ar ein holau ni…

“Fe fyddwn i’n mynd cyn belled â dweud na fyddai cerddorfa’r BBC yn bodoli fel y mae heddiw oni bai am gyfraniad Mervyn yn yr 80au. Pan oedd dyfodol y gerddorfa dan fygythiad, fe weithiodd yn galed i’w chadw a’i ehangu

Dros y byd

“Roedd y ffordd y llwyddodd i wneud hynny yn glyfar hefyd. Roedd e’n defnyddio cantorion a pherfformwyr Cymreig ac yna’n llwyddo i gael arweinwyr blaenllaw a rhyngwladol i arwain y gerddorfa.

“Fe gafodd un o’i raglenni, Saints and Sinners, ei gweld dros y byd ac roedd wedi cael llwyddiant hefyd yn cynhyrchu recordiau Aled Jones.

“Heb os, Mervyn oedd y gŵr mwyaf bonheddig a allwch chi ddychmygu. Roedd o’n sosialydd cryf ac yn ddyn busnes.”

O flaen ei amser

Bryn Roberts, pennaeth y cwmni adnoddau Barcud Derwen. Mervyn Williams oedd un o sylfaenwyr cwmni adnoddau Derwen – enghraifft o’i allu busnes a’i weledigaeth.

“Roedd Mervyn Williams yn andros o gymeriad ac yn arloesol yn ei arddull gweithio. Roedd o’n bell o flaen ei amser, yn arbennig wrth ystyried y ffordd yr oedd o’n rhoi cytundeb at ei gilydd – yn cael cwmnïau ym mhob man i dalu eu rhan”

“Pan o’n i’n gweithio yn Llandeilo (i Derwen) mi fyddwn i’n mynd i’w gyfarfod ddiwedd yr wythnos, ar ddydd Gwener fel arfer.

“Os nac oedd pethau ddim yn mynd yn rhy dda, oedd o wastad yn codi fy ysbryd i. Ond, os oeddwn i’n mynd i’r cyfarfod yn credu fod popeth yn dda, roedd o wastad yn rhyw rybuddio nad oedd pethau mor dda â hynny.

“Roedd gen i dric erbyn y diwedd – i beintio darlun du – er mwyn i Mervyn fod yn hapus”

“Roedd un peth yn sicr am Mervyn, roedd o’n siarad yn blaen -yn hollol ddiflewyn ar dafod.

Dyn sbesial iawn

Mervyn Williams a roddodd ei swydd gynta’ ym maes teledu i’r cerddor, Euros Rhys. Fe fu’r ddau’n cydweithio’n agos.

“Roedd e’n ddyn sbesial iawn. Roedd e’n llawn syniadau a’r rheiny’n aml yn syniadau mawr a phobol yn meddwl na fydden nhw’n gweithio. Canwr y Byd oedd un o’r rheiny. Wrth weithio ar un syniad, roedd e’n dechrau ar un arall.

“Roedd e’n ddiwylliedig iawn ac yn wybodus iawn hefyd. Er nad oedd e, hyd y gwn i, wedi astudio cerddoriaeth yn ffurfiol, roedd gyda fe wybodaeth a chariad at gerddoriaeth.

“Roedd e’n ddyn hael iawn ac yn llawn hwyl a llawn straeon.

“Fe welais i e yng nghwmni perfformwyr enwog ac roedd eu parch nhw ato fe’n amlwg.

“Roedd e’n ddyn gonest o fewn y busnes. Roeddech chi’n gwybod ble’r oeddech chi gyda Mervyn. Os nac oedd e’n hoffi rhywbeth, neu ddim yn cytuno â rhywbeth, fydde fe’n dweud yn blwmp ac yn blaen.”