Mae o leiaf 20 o bobl wedi marw yn y Philippines ar ôl i storm drofannol arall daro’r wlad – y bedwaredd ers diwedd mis Medi.
Mae Teiffŵn Mirinae bellach yn symud dros Fôr De China, a’r disgwyl yw y bydd yn taro arfordir canolbarth Vietnam tua chanol dydd yfory.
Eisoes, mae Prif Weinidog Vietnam wedi gorchymyn trigolion i adael pum talaith arfordirol a gorchymyn holl bysgotwyr Môr De China i ddod i’r lan ar unwaith.
Mae’r ddwy wlad yn dal i geisio dygymod ag effeithiau Teiffŵn Ketsana, a achosodd y llifogydd gwaethaf ym Manila, prifddinas y Philippines, ers 40 mlynedd, ac a laddodd dros 160 o bobl yn Vietnam ddiwedd mis Medi.
Fe wnaeth Ketsana a dwy storm ddiweddarach ladd dros 900 yn y Philippines, ac roedd 87,000 o bobl yn dal mewn llety dros dro pan wnaeth Mirinae daro ddoe.
Ni wnaeth y storm rwystro trigolion y wlad Gatholig hon rhag talu teyrnged i’r meirw heddw ar ddydd yr Holl Saint. Mae torfeydd anferthol wedi bod yn gwasgu i mewn i fynwentydd gyda rhai’n teithio trwy’r llifogydd mewn cychod.
Dywed proffwydi tywydd y wlad eu bod nhw’n cadw llygad ar ardal o bwysedd isel ar y Môr Tawel tua 379 milltir o arfordir dwyrain y wlad, ond ei bod yn rhy gynnar i allu dweud eto a fydd yn datblygu’n storm arall.
Llun: Trigolion tref Santa Cruz i’r de o Manila yn cerdded trwy’r llifogydd i ddianc o’u cartrefi