Mae arolwg barn a gyhoeddir heddiw’n dangos gwrthwynebiad cryf i Tony Blair neu David Miliband gael eu penodi i brif swyddi newydd yn yr Undeb Ewropeaidd a fydd yn cael eu creu o dan gytundeb Lisbon.
Wrth i ragolygon y cyn-brif weinidog o ddod yn arlywydd cyntaf yr Undeb Ewropeaidd wanhau, mae enw David Miliband bellach yn cael ei grybwyll fel gweinidog tramor yr Undeb – er ei fod ef ei hun yn gwadu bod ganddo ddiddordeb.
Mae pôl ICM i bapur newydd y Sunday Telegraph yn dangos gwrthwynebiad cryf i’r nall na’r llall gael eu penodi i swyddi o’r fath.
Roedd 53% yn erbyn gweld Tony Blair yn arlywydd Ewrop, a 36% o blaid. Y ffigurau cyfatebol am David Miliband oedd 48% yn erbyn a 29% o blaid.
Yn yr un arolwg barn, mae’r Torïaid 17 pwynt canran ar y blaen i Lafur.
Y ffigurau yw:
Torïaid – 42%
Llafur – 25%
Democratiaid Rhyddfrydol – 21%
Nid yw’n ymddangos fod Nick Griffin wedi llwyddo i ennill unrhyw gefnogaeth ychwanegol i’r BNP ers ymddangos ar Question Time, gan mai 2% yn unig oedd yn dweud y bydden nhw’n pleidleisio iddynt . Roedd hyn 1 pwynt yn llai nag oedd mewn pôl tebyg gan ICM tua phythefnos yn ôl.