Mae adroddiad papur newydd yn awgrymu y bydd tri banc preifat yn ymddangos ar y stryd fawr wrth i’r Llywodraeth werthu’r banciau sydd wedi eu gwladoli’n rhannol.
Yn ôl y Sunday Telegraph, fe fydd banciau Lloyds, yr RBS a Northern Rock yn cael eu rhoi’n ôl yn llwyr mewn dwylo preifat, trwy greu banciau newydd.
Y disgwyl yw y bydd dau hen enw yn ymuno gyda Northern Rock, gyda dau fanc newydd o’r enw TSB a Williams & Glyn.
Os yw’r papur yn gywir, does dim manylion eto pwy fydd yn cael cynnig i brynu’r banciau ond y tebygrwydd yw na fyddai’r enwau mawr iawn yn cael gwneud hynny.
Ymhlith y prynwyr posib, mae rhai o’r cwmnïau siopau mawr, sy’n symud i mewn i’r maes ariannol, a chymdeithasau adeiladu a sefydliadau ariannol eraill.
Fe gafodd yr RBS a Lloyds gefnogaeth gan y Llywodraeth o £37 biliwn ac mae’r Prif Weinidog, Gordon Brown, wedi dweud ei fod eisiau i’r cyhoedd gael peth o’u harian yn ôl.