Mae gwrthwynebydd yr Arlywydd yn etholiad Afghanistan wedi cyhoeddi ei fod yn tynnu’n ôl o’r gystadleuaeth.

Yn ôl Abdullah Abdullah, doedd dim modd cael etholiad teg ar ôl i’w wrthwynebydd, yr Arlywydd Hamid Karzai, wrthod galwadau am newid yn y drefn.

Mae yntau bellach yn gwrthod cymryd rhan yn y bleidlais a oedd i fod i ddigwydd ymhen yr wythnos.

Gwrthod newid

Roedd Abdullah Abdullah wedi galw am gael gwared ar rai o aelodau’r Comisiwn Etholiadau a oedd wedi goruchwylio’r ornest gynta’ ar Awst 20 pan oedd yna brawf o lygredd eang.

Er gwaetha’ cyfarfod ddoe, fe fethodd y ddwy ochr â chytuno ac mae Hamid Karzai wedi gwrthod unrhyw newidiadau.

Hon fyddai ail rownd yr etholiad arlywyddol – roedd Karzai wedi ennill y rownd gynta’, ond fe brofwyd wedyn bod twyll wedi effeithio ar gannoedd o filoedd o bleidleisiau.

Yr oblygiadau

Yr ofn yw y gallai’r penderfyniad greu anhrefn a thrais a dinistrio hygrededd llywodraeth Hamid Karzai.

Os na fydd newid meddwl, yr awgrym o Afghanistan yw y bydd y bleidlais yn cael ei chanslo – rhag creu cyfle dibwrpas i wrthryfelwyr y Taliban ymosod.

Dyw hi ddim yn glir eto beth fydd ymateb y gymuned ryngwladol – pan glywodd hi’r sïon gynta’, fe awgrymodd Ysgrifennydd Tramor yr Unol Daleithiau, Hillary Clinton, mai penderfyniad personol oedd hwn.