Fe fu’n rhaid achub tri o bobol a babi tri mis oed oddi ar lan môr creigiog ym Mro Morgannwg.

Roedd y grŵp yn cerdded gyda’u ci yn ardal yr A Fach ger Llanilltud Fawr pan aethon nhw i drafferthion a hithau’n tywyllu a’r llanw’n dod i mewn.

Yn awr, mae Gwylwyr y Glannau yn Abertawe wedi rhybuddio pobol i fod yn siŵr o amseroedd y llanw, hyd yn oed mewn ardaloedd cyfarwydd.

Pan ddaeth yr alwad tua phump o’r gloch neithiwr, fe anfonwyd tîm achub Gwylwyr y Glannau Llanilltud Fawr i’w helpu, a bad achub yr RNLI o Goleg yr Iwerydd, Sain Dunwyd.

Oherwydd y creigiau a’r llanw, roedden nhw’n methu â chyrraedd y pedwar ac, yn y diwedd, fe fu’n rhaid galw ar hofrennydd o RAF Chivenor i’w codi i ddiogelwch.