Llwyddodd yr heddlu i gadw dwy garfan wrthwynebus o brotestwyr ar wahân yng nghanol dinas Leeds y prynhawn yma – er gwaethaf ofnau y byddai anhrefn.
Ymgasglodd tua 1,500 o brotestwyr gwrth-ffasgaidd yn Leeds y prynhawn yma i ddangos eu gwrthwynebiad i brotest gan y mudiad asgell dde, yr English Defence League.
Er bod cannoedd o’u cefnogwyr hwythau yno hefyd, prin y cafodd y ddwy garfan fynd ar gyfyl ei gilydd.
I rwystro hynny rhag digwydd, roedd presenoldeb anferth gan yr heddlu yno, gan gynnwys rai gyda chŵn ac ar geffylau, ac roedd hofrennydd ganddynt uwchben y ddinas trwy’r dydd.
Dechreuodd protest gan aelodau Unite Against Fascism tua hanner dydd y tu allan i oriel gelf y ddinas, a bu rhywfaint o gythrwfl wrth i’r heddlu orfodi’r protestwyr i symud i safle arall wedi ei neilltuo ar eu cyfer.
Yn Sgwâr y Ddinas gerllaw roedd protestwyr o’r English Defence League wedi ymgasglu tua 1 o’r gloch gan ganu caneuon tîm pêl-droed Lloegr a God Save the Queen.
Cau strydoedd
Roedd amryw o strydoedd yn y ddinas wedi cau i gerbydau wrth i’r ddwy brotest fynd ymlaen.
Fe fu rhywfaint o fân wrthdaro yn ystod y prynhawn, ond fawr ddim anhrefn difrifol.
Mae’r English Defence League wedi cynnal cyfres o brotestiadau ledled Prydain yn erbyn ‘eithafwyr Islamaidd’, gan gynnwys un yn Abertawe dair wythnos yn ôl.
Dywedodd Heddlu Gorllewin Swydd Efrog fod wyth wedi eu harestio am fân droseddau, ac nad oedd unrhyw adroddiadau am unrhyw anafiadau.
Dywedodd fod dros 2,000 o bobl wedi cymryd rhan yn y ddwy brotest.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Mark Gilmore, a oedd yn gyfrifol am weithgareddau’r heddlu am y diwrnod, eu bod yn hapus gyda’r ffordd yr aeth pethau.
“Cafodd llawer o amser Heddlu Gogledd Swydd Efrog a Cyngor Dinas Leeds ei fuddsoddi mewn cynllunio a thrafodaethau a chredwn fod y buddsoddiad hwnnw wedi talu yn sgil y canlyniad heddychlon heddiw,” meddai.
Llun: protestwyr gwrth-ffasgaidd yn gwrthdaro â’r heddlu yn Leeds heddiw (Owen Humphreys/PA Wire