Mae hyfforddwr Abertawe, Paulo Sousa, wedi dweud bod lle i wella er gwaetha’ buddugoliaeth 2- 0 y tîm yn erbyn Scunthorpe yn Glanford Park.
Fe wnaeth goliau gan Craig Beattie a Cedric Van der Gun sicrhau nad yw’r tîm bellach wedi colli un gêm yn eu naw diwethaf yn y Bencampwriaeth.
Mae tîm Sousa dau bwynt yn unig y tu allan i’r chwech uchaf ac fe all Abertawe herio am ddyrchafiad i Uwchgynghrair Lloegr.
“Rydw i’n hapus iawn, ond rydw i’n credu bod angen i ni sgorio mwy o goliau ac angen bod yn fwy clinigol,” meddai.
“Fe wnaethon ni chwarae yn erbyn tîm gyda lot i chwarae amdano. Roedd o’n bwysig i ni ennill oddi cartref eto.
“Rydyn ni ar y trywydd iawn ond mae yna dal le i wella. Fe wnaethon ni greu nifer o bosibiliadau ond mae’n rhaid cymryd penderfyniadau gwell ar yr eiliad olaf.
“Dydd Sadwrn diwethaf (yn y gêm gyfartal yn erbyn Blackpool) fe wnaethon ni greu nifer o gyfleoedd i sgorio a heddiw fe wnaethon ni sgorio dau, ond fe alle’n ni fod yn sgorio yn fwy aml.”
Daeth Scunthorpe i’r gêm ar gefn chwalfa 5-1 yn erbyn Manchester City yn y Cwpan Carling, ond roedden nhw wedi maeddu Shieffield United a Newcastle yn eu gemau cartref diwethaf.
“Roedden ni’n gwybod bod Abertawe yn dîm da gyda’r bel ac fe wnaethon nhw ddangos hynny heddiw,” meddai’r hyfforddwr Nigel Adkins.