Mae gwyddonwyr blaenllaw wedi ymateb yn ffyrnig ar ôl i brif ymgynghorydd cyffuriau’r Llywodraeth gael ei orfodi i ymddiswyddo.
Maen nhw’n gryf eu cefnogaeth i’r Athro David Nutt, a gollodd ei swydd fel Cadeirydd y Cyngor Yngynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau ar ôl i’r Ysgrifennydd Cartref ddweud ei fod wedi “colli hyder” yn ei allu i roi cyngor diduedd.
Roedd gweinydogion y Llywodraeth wedi cael eu gwylltio gan sylwadau’r Athro Nutt yn gynharach yn yr wythnos.
Roedd wedi beirniadu’n gyhoeddus y penderfyniad i uwchraddio cannabis yn gyffur dosbarth B, yn groes i’w gyngor, gan ddweud bod cannabis, ynghyd ag ecstasy ac LSD, yn llai niweidiol nag alcohol a sigarets.
‘Cefnu ar dystiolaeth’
Cyhuddodd yr Athro Colin Blakemore, niwrowyddonydd o Brifysgol Rhydychen, y Llywodraeth o droi cefn ar ymrwymiad i seilio polisïau ar dystiolaeth.
Meddai Syr Leszek Borysiewicz, prif weithredwr y Cyngor Ymchwil Meddygol: “Mae’n hanfodol fod polisi’r Deyrnas Unedig yn cael ei seilio ar dystiolaeth a bod gwyddonwyr yn gallu cynnig cynnig dilyffethair heb ofni dial.
“Dylai’r egwyddor hon fod yn asgwrn cefn i berthynas gwyddonwyr â llywodraeth.”
Meddai Richard Garside, cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Troseddau a Chyfiawnder yng Ngholeg y Brenin, Llundain:
“Mae’n sioc ac yn siom i mi fod yr Ysgrifennydd Cartref fel petai’n credu bod ystyriaethau gwleidyddol yn bwysicach na barn wyddonol onest a gwybodus.”
Aelodau ‘blin iawn’
Rhybuddiodd yr Athro David Nutt fod llawer o aelodau eraill y Cyngor ar Gamddefnyddio Cyffuriau yn “flin iawn, iawn” gydag agwedd y Prif Weinidog, a bod cwyn swyddogol wedi cael ei gwneud.
“Fyddwn i ddim yn synnu os bydd rhai ohonyn nhw’n ymddiswyddo,” meddai. “Efallai y bydd pawb ohonyn nhw’n gwneud.
“Dyma’r Llywodraeth gyntaf yn hanes y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau i fynd yn groes i gyngor ei phanel gwyddonol.”
Llun: Asgwrn y gynnen – deilen cannabis