Fe fydd rhaid i long fordeithiau fwya’r byd blygu ei phen wrth adael am ei chartre’ newydd.
Mae’r Oasis of the Seas newydd gael ei gorffen mewn iard longau yn y Ffindir ac mae ar ei ffordd i weithio ym Môr y Caribî.
Ar ei ffordd allan o Fôr y Baltig, fe fydd rhaid iddi fynd o dan bont sydd ddim ond troedfedd yn uwch na hi ei hun – hyd yn oed ar ôl gostwng ei simneiau.
Y dacteg mae’n debyg fydd hwylio’n gyflym, fel bod y llong yn mynd yn is yn y dŵr.
Mae yna ddadlau am y llong, sydd bum gwaith yn fwy na’r Titanic, gyda rhai yn dweud ei bod yn rhy fawr i Ynysoedd India’r Gorllewin, gan foddi trefi bach gyda miloedd o ymwelwyr.
Mae yna amheuon amgylcheddol a busnes hefyd – fe ddechreuwyd ei hadeiladu cyn y dirwasgiad byd-eang.
Lefiathan Newydd
Dyma rai o’r manylion:
• Mae’n 20 llawr o uchder ac mae ganddi saith ‘cymdogaeth’ wahanol.
• Mae ganddi 2,700 o gabanau.
• Mae lle ynddi i 6,500 o deithwyr a 2,100 o griw.
• Mae ganddi gwrs golff ac arena sglefrio ar iâ.
• Fin nos, bydd y pwll nofio’n cael ei droi yn amffitheatr ar gyfer 750 o bobol.