Roedd aelod o’r Gwarchodlu Cymreig a gafodd ei ladd yn Afghanistan wedi rhybuddio bod prinder hofrenyddion yn peryglu bywydau yno.
Daeth i’r amlwg heddiw fod yr Is-gyrnol Rupert Thornloed – a fu farw mewn ffrwydrad ym mis Gorffennaf – wedi anfon neges lai na mis ynghynt yn dweud nad oedd yr hofrenyddion yno’n addas i’r diben ac nad oedd digon ohonyn nhw.
Yr Is-gyrnol oedd y milwr uchaf ei reng o fyddin Prydain i gael ei ladd mewn rhyfel ers rhyfel ynysoedd yn Falklands yn 1982.
Mewn un neges roedd wedi dweud:
“Mae pawb ohonon ni’n gwybod nad oes gynnon ni ddigon o hofrenyddion.
“Allwn ni ddim symud pobol, felly’r mis yma rydyn ni wedi gorfod gwneud llawer o’n symudiadau ni ar y ddaear, ac mae hyn yn cynyddu’r bygythiad o ffrwydron.”
Dywedodd Col Thorneloe nad oedd ganddyn nhw “fawr ddim” hofrenyddion a fyddai’n ei alluogi i symud milwyr yn yr awyr yn lle ar y ffyrdd. “Mae lefel bresennol y gefnogaeth hofrenyddion felly’n anghynaliadwy,” meddai.
Bu farw Col Thorneloe, a oedd yn gomander Bataliwn Gyntaf y Gwarchodlu Cymreig, ynghyd â’r Trwper Joshua Hammond ar Orffennaf 1 pan gafodd eu confoi eu taro gan ddyfais ffrwydrol yn nhalaith Helmand.
Mae llawer o ddadlau wedi bod dros y misoedd diwethaf ynghylch diffyg amddiffyniad digonol i filwyr yn Afghanistan, ac mae rhybuddion y diweddar is-gyrnol yn debyg o ffyrnigo’r ddadl ymhellach.