Cic ardderchog gan faswr ifanc a enillodd un pwynt bonws ac ychydig o falchder i’r Scarlets wrth iddyn nhw golli o 16-10 yn Connacht yng Nghynghrair Magners.

Roedden nhw 13-0 ar ei hôl hi ar hanner amser a’u hunig sgôr am y rhan fwya’ o’r ail oedd un gic gosb gan Rhys Priestland.

Ond, tua’r diwedd, fe groesodd yr asgellwr Lee Williams, a llwyddodd Dan Newton gyda’r gic o’r ystlys i ddod â’r Cymry o fewn llai na phwynt i’r Gwyddelod.

Roedd Newton wedi dod ymlaen yn lle Priestland ar ôl 72 o funudau, un o nifer o wynebau anghyfarwydd wrth i’r Scarlets golli eu chwaraewyr rhyngwladol.

I wneud pethau’n waeth, fe gafodd y prop Deacon Manu anaf yn union cyn y gêm ac roedd y tywydd yn amharu ar allu’r Scarlets i barhau gyda’u rhediad da tros yr wythnosau diwetha’.

Llun: Deacon Manu – anaf ar y funud ola’