Doedd hyfforddwr y Gweilch ddim yn gwybod sut i ymateb ar ôl i’w dîm fethu â churo Glasgow yn Abertawe neithiwr.
“Dw i ddim yn gwybod pa un ai i fod yn wirioneddol siomedig neu’n wirioneddol falch,” meddai Scott Johnson ar ôl y gêm gyfartal 9-9. “Roedd yr ymdrech yn wych a’r gweithredu’n ddychrynllyd.”
Cyn y gêm, roedd 22 o chwaraewyr y Gweilch heb fod ar gael – yn rhannol oherwydd gemau rhyngwladol – ac fe aeth pethau’n waeth wrth i’r rheng ôl Marty Holah dynnu llinell y gar wrth dwymo.
Roedd Scott Johnson wedi gorfod “towlu tîm at ei gilydd”, meddai, gan gynnwys rhoi gêm gynta’ i Nicky Thomas o Abertawe.
Y gêm yn hy glaw
Ciciau cosb oedd yr unig sgorio ynghanol glaw mawr ond roedd y Gweilch wedi ceisio chwarae’n ymosodol trwy’r gêm gan ddod yn agos sawl tro.
Roedd y Cymry ar y blaen o 6-3 ar yr hanner ac roedd yna gyfle am gic gosb ar y diwedd i ennill y gêm ond fe aeth cynnig Gareth Owen heibio i’r pyst,
Yn ôl Scott Johnson, fe allen nhw fod wedi ennill petaen nhw wedi pwyllo ond roedd y chwaraewyr yn awyddus i ymosod hyd at y diwedd.