Mae amheuon mawr wedi codi yn yr Alban tros allu’r Llywodraeth yno i alw refferendwm ar annibyniaeth y flwyddyn nesa’.
Os yw’r straeon yn y papurau Albanaidd yn wir, fe allai gael effaith ar amseriad refferendwm datganoli yng Nghymru hefyd.
Heddiw, mae plaid y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Alban yn cynnal cyfarfod arbennig yn Dunfermline i drafod eu hagwedd nhw at y refferendwm.
Y disgwyl yw y byddan nhw’n cadw at eu gwrthwynebiad ar hyn o bryd ond yn agor y drws ar gefnogi refferendwm yn ddiweddarach, ar ôl Etholiadau Senedd yr Alban yn 2011.
SNP yn ‘derbyn’
Yn ôl papur Y Scotsman, mae’r cyfan yn rhan o’r ymrafael i fod mewn lle cry’ i fargeinio cyn yr etholiadau hynny.
Ond, meddai, mae arweinwyr yr SNP, plaid y llywodraeth, yn derbyn bellach nad yw refferendwm cynnar yn bosib.
Mae’r papur yn dyfynnu’r Athro Gwleidyddiaeth o Brifysgol Strathclyde, John Curtice, sy’n dweud mai’r dyddiad mwya’ tebygol bellach yw 1 Mai 2012.
Yr effaith ar Gymru
Yng Nghymru, mae yna drafod tebyg tros gael refferendwm ar bwerau deddfu llawn cyn etholiadau 2011.
Ar un ochr, mae mudiadau fel Cymru Yfory a Phlaid Cymru – yn swyddogol beth bynnag – eisiau refferendwm buan. Ar yr ochr arall, mae Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, a Carwyn Jones, un o’r ymgeiswyr am yr arweinyddiaeth, tros oedi.
Un digwyddiad pwysig fydd cyhoeddi adroddiad Confensiwn Syr Emyr Jones Parry ganol y mis nesa’, gyda disgwyl y bydd yn argymell symud cyflym.
Ond, ers 1997, mae’r broses ddatganoli yng Nghymru i raddau wedi ei sbarduno gan yr hyn sy’n digwydd yn yr Alban- roedd y refferendwm yng Nghymru wythnos ar ôl y refferendwm yno.
Llun: Senedd Holyrood yn yr Alban