Wrth i streic ddiweddara’r gweithwyr post achosi mynydd o 35 miliwn o lythyrau hwyr, mae’r Post Brenhinol wedi condemnio penderfyniad yr undeb i gynnal rhagor o streiciau ymhen wythnos.
Mae’r cwmni’n dweud bod y penderfyniad yn un “dinistriol” gan fod y ddwy ochr ynghanol trafodaethau o dan adain cyngres undebau’r TUC.
Ddoe, fe gyhoeddodd Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, y CWU, y byddan nhw’n cynnal dwy streic undydd ddydd Gwener nesa’ ac wythnos i ddydd Llun – y rhai cynta’ i gynnwys holl weithwyr y gwasanaeth.
Yn ôl y Post Brenhinol, roedd hynny’n codi amheuon am honiadau’r undeb eu bod eisiau heddwch – ateb yr undeb yw bod y cwmni wedi gwrthod arwyddo cytundeb a fyddai wedi atal y streiciau.
Ar hyn o bryd, mae’r ddwy ochr yn cadw at addewid i Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC, Brendan Barber, i beidio â thrafod manylion y trafodaethau newydd.
Effaith y streiciau
Heddiw, mae tua 70,000 o bostmyn ar streic ar ddiwedd cyfres o dair streic undydd. Ond mae’r Post Brenhinol yn honni nad yw’r gweithredu yn cael cymaint o effaith â’r disgwyl.
Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr y Post Brenhinol, Mark Higson: “Diolch i ymdrechion yr holl bobol sy’n dal i weithio, i ymroddiad ein rheolwyr a help hyd at 30,000 o weithwyr dros dro, byddwn yn gallu cyfyngu ar effaith y streiciau.
“R’yn ni’n gobeithio cael y post sydd ar ôl i gartrefi pobol erbyn dechrau’r wythnos.”
Llun (Trwydded GNU)