Mae Llywodraeth Prydain wedi rhoi’r sac i’w prif ymgynghorydd cyffuriau, ar ôl iddo ddweud fod canabis, ecstasi ac LSD, yn llai peryglus nac alcohol a sigarennau.
Fe wnaeth yr Athro David Nutt, a oedd yn gadeirydd Cyngor Ymgynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau, yr honiad ar ddechrau’r wythnos, ar ôl iddo feirniadu penderfyniad y Llywodraeth i ail-raddio canabis fel cyffur dosbarth B.
Mae’n dadlau fod y Llywodraeth yn diystyru tystiolaeth wyddonol, ac mae’n dweud fod angen penderfynu sut mae graddio cyffuriau yn ôl y niwed maen nhw’n achosi i bobol.
Llythyr
Gofynnodd yr Ysgrifennydd Cartref, Alan Johnson, mewn llythyr i’r Athro Nutt i ymddiswyddo.
Ysgrifennodd Alan Johnson ei fod wedi “synnu” a’i “siomi” am sylwadau’r Athro Nutt, gan fod y sylwadau wedi difrodi’r ymdrechion i roi neges glir i’r cyhoedd ynglŷn â pheryglon cyffuriau.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref hefyd mai gwaith cadeirydd y Cyngor Ymgynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau yw rhoi cyngor annibynnol gwyddonol, ac nid i lobio ar gyfer newid polisïau.
Mae’r Athro Nutt wedi dweud ei fod wedi “siomi’n fawr”, gan ddweud fod cyfraniad arbenigwyr yn cael ei ddibrisio pan ddaw hi i greu polisïau, os nad ydyn nhw’n cael cymryd rhan mewn trafodaeth.
Llun: Yr Athro David Nutt