Dyw BBC Cymru ddim wedi cynnig esboniad eto pam bod ffigurau gwrando Radio Cymru tros yr haf wedi syrthio yn is nag ar un adeg yn ystod y deng mlynedd diwetha’.

Fe gyhoeddodd y cwmni mesur cynulleidfaoedd, Rajar, mae 122,000 o bobol oedd wedi bod yn gwrando ar yr orsaf ar gyfartaledd yn ystod y tri mis hyd at Fedi eleni – y ffigwr isa’ ar gyfer yr adeg honno o’r flwyddyn ers o leia’ 1999.

Mae’n golygu cwymp o 38,000 ar yr un adeg y llynedd a chymaint â 49,000 ar y chwarter cynt, pan oedd y ffigurau’n arbennig o dda.

Ar yr un pryd, mae ffigurau gwrando ar y radio trwy wledydd Prydain wedi cynyddu yn ystod y tri mis – o 600,000 – a chafodd Radio 4 y BBC eu ffigurau gorau erioed.

Roedd yna rywfaint o gwymp hefyd yn ffigurau Radio Wales, ond ddim i’r un graddau â Radio Cymru.
Unig ymateb y BBC yng Nghaerdydd oedd datganiad un frawddeg gan lefarydd: ““Mae bron i 500,000 o bobol yng Nghymru yn parhau i ddibynnu ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru i adlewyrchu ac adrodd ar yr amrywiaeth o fywyd Cymreig trwy raglenni newyddion, gwleidyddol, chwaraeon, ffeithiol a diwylliannol yn y ddwy iaith.”