Mae’r Prif Weinidog Gordon Brown yn dweud bod arweinwyr Ewrop wedi llwyddo i “dorri trwodd” heddiw mewn trafodaethau ar newid yn yr hinsawdd.

Mae gwledydd yr Undeb Ewropeaidd wedi cytuno ar bris i’w osod ar allyriadau carbon i’w gynnig i weddill y byd yn y trafodaethau amgylcheddol byd-eang yn Copenhagen ym mis Rhagfyr.

Mae’r cytundeb yma’n fuddugoliaeth i Gordon Brown, a oedd wedi pwyso am ffigurau pendant, er gwaethaf gwrthwynebiad Canghellor yr Almaen, Angela Merkel.

Mae’r uwchgynhadledd yn gosod pris o 100 biliwn ewro y flwyddyn ar leihau cynhesu byd-eang erbyn 2020, gyda rhwng 22 a 50 biliwn ohono’n dod o wariant cyhoeddus. Ar sail y ffigurau hyn, byddai’r Undeb Ewropeaidd yn cyfrannu rhwng 7 a 10 biliwn ewro ato, a fyddai’n golygu gwariant ariannol o tua £1 biliwn y flwyddyn i Brydain.

“Dw i’n credu fod hyn yn gwneud cytundeb yn bosibl yn Copenhagen,” meddai’r Prif Weinidog. “Mae Ewrop yn gwneud tri chynnig amodol – arian ar y bwrdd, dweud y gwnawn ni bopeth y gallwn i beri i gytundeb ddigwydd ar newid yn yr hinsawdd, a help i wledydd sy’n datblygu ddod i’r cytundeb hwnnw.

“Rydym bellach eisiau i wledydd eraill ymateb i’r hyn ydym ni’n ei wneud.”

Croeso amodol

Cafodd y cyhoeddiad groeso amodol gan y mudiad amgylcheddol Greenpeace.

“Nid yw’r uwchgynhadledd wedi ymrwymo’r UE i gyfran benodol o’r baich ariannol o fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd,” meddai Joris den Blanken, cyfarwyddwr polisi hinsawdd y mudiad. “Ond nid yw popeth wedi’i golli: heddiw mae 27 o wledydd cyfoethocaf y byd wedi cefnogi ariannu byd-eang i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd mewn gwledydd sy’n datblygu.

“Mae trên Copenhagen yn dal i redeg, ond mae dirfawr angen ar y byd am arweiniad i rwystro’r olwynion rhag neidio oddi ar y cledrau.”