Mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Jack Straw, wedi gorchymyn swyddogion ei adran i roi’r gorau i weithio ar gynlluniau i arbed arian ar ddiwrnod etholiad.

Daeth y cynigion i arbed £56 miliwn ar ddyddiau etholiadau i’r amlwg ddoe, wedi i ddogfen oedd wedi cael eu hanfon o’r Adran Gyfiawnder i’r Trysorlys gyrraedd papur newydd y Times.

Roedd y cynigion yn cynnwys lleihau’r nifer o orsafoedd pleidleisio ar ddiwrnod etholiad; lleihau’r oriau ar gyfer pleidleisio; a lleihau mesurau diogelwch.

Mae Jack Straw wedi dweud ei fod ef na gweinidogion eraill ddim yn ymwybodol o’r cynigion, ond petai’n gwybod, y byddai wedi dweud wrth swyddogion fod y syniadau yn “hollol annerbyniol”.

‘Angen talu am ddemocratiaeth’

“Mae swyddogion angen lle i ymchwilio’r holl bosibiliadau cyn rhoi eu cynigion i weinidogion,” meddai Jack Straw.

“Dydw i’n gwneud dim cŵyn am hynny, ond gan ei fod nawr yn gyhoeddus rydw i am wneud yn glir y byddwn i wedi dweud wrth swyddogion yn breifat: fod y cynigion yma yn hollol annerbyniol.

“Mae’r ymarfer felly wedi dod i ben. Mae’n rhaid talu am ddemocratiaeth.”

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gyfiawnder fod y cynigion yma yn rhan o “gasgliad” o syniadau sydd wedi bod yn cael eu trafod ynglŷn â chostau etholiadol.

Cafodd y syniadau eu beirniadu’n hallt ddoe, gan fod ofnau y byddai eu gweithredu yn tanseilio democratiaeth ac yn cael yr effaith o leihau’r nifer o bobol a fyddai’n pleidleisio.