Nid yw Prydain wedi paratoi’n ddigon da ar gyfer gaeaf caled arall.
Dyna yw rhybudd mewn adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr heddiw.
Mae’n pwysleisio’r angen ar i wasanaethau bysiau a threnau baratoi’n well i ddelio â thywydd eithafol.
Dylai cwmnïau rheilffyrdd a threnau osod offer newydd i sicrhau fod trenau’n gallu parhau i redeg mewn tywydd oer, a dylai cwmnïau bysiau aildrefnu ac adolygu eu gwasanaethau yn ystod tywydd garw, meddai’r adroddiad.
Mae’n datgan pryder hefyd fod Prydain bron yn gwbl ddibynnol ar ddau gwmni i gyflenwi graean i lonydd y wlad.
“Ni ddylai’r wlad ddod i stop”
Mae’r adroddiad yn feirniadol o’r ffordd y deliwyd â thywydd oer mis Chwefror diwethaf ac o ansawdd gwasanaethau trafnidiaeth yn ystod y cyfnod.
Yn ystod y cyfnod hwn, fe gafodd Llundain yr eira gwaethaf mewn 19 mlynedd ac fe gafodd y tywydd effaith amlwg ar wasanaethau trafnidiaeth y ddinas.
“Pan rydan ni’n cael tywydd garw, ni ddylai’r wlad ddod i stop,” meddai’r cynghorydd David Sparks, Cadeirydd bwrdd adfywio a thrafnidiaeth cymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr.