Mae’r cyn-weinidog cyflogaeth, Tony McNulty, wedi gwadu twyllo’r system gostau heddiw, gan ddweud fod ei ddyfodol fel gwleidydd yn “nwylo’r etholwyr.”

Eisoes, mae’r Aelod Seneddol dros Harrow wedi cytuno i dalu dros £13,000 yn ôl mewn lwfansau ail gartref, ar ôl iddo ymddiheuro i Dŷ’r cyffredin ddoe.

Heddiw, mae wedi dweud nad oedd yn euog o “dwyllo na chelwyddau”

“Yn y diwedd, cyfrifoldeb etholwyr fydd pennu fy nyfodol,” meddai.

Eisoes, mae Pwyllgor Safonau a Breintiau Tŷ’r Cyffredin wedi datgan ei fod wedi bod cefnogi’i rieni’n ariannol trwy ddefnydd cyllid cyhoeddus.

Gwadu colled i drethdalwyr

Ond, ar GMTV, wrth gyfeirio at gorff Adroddiad y Comisiwn mae McNulty wedi gwadu unrhyw “golled i’r trethdalwr” o ganlyniad.

Er hynny, mae wedi ymddiheuro i Dŷ’r Cyffredin a hynny “ei fod yn pryderu’n fawr beth mae pobl yn ei feddwl.”

Pan gafodd Gordon Brown y cwestiwn – a ddylai McNulty gael cymryd rhan eto yn yr etholiad cyffredinol fe wnaeth Gordon Brown ateb drwy ddweud ei fod wedi “talu’r arian yn ôl a’i fod wedi ymddiheuro ar gais pwyllgor Tŷ’r Cyffredin.”

Llun: Tony McNulty, AS Harrow yn ymddiheuro yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe (PA Wire)