Mae cyn-arlywydd Ffrainc, Jacques Chirac yn wynebu achos llys ar sail cyhuddiadau o lygredd yn ystod ei dymor fel maer Paris rhwng 1977 ac 1995.

Er bod yr erlynydd yn wreiddiol wedi gofyn i’r llys ollwng yr achos, fe wnaeth ynad orchymyn i Jacques Chirac sefyll ei brawf am “gamddefnyddio arian cyhoeddus” a “thorri ymddiriedaeth”.

Mae barnwr wedi bod yn ymchwilio a oedd cyfeillion agos i Jacques Chirac yn cael swyddi ‘ffug’ fel ymgynghorwyr ac yn derbyn tâl er nad oedden nhw’n gwneud dim mewn gwirionedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Jacques Chirac ei fod yn berffaith fodlon dangos nad oedd yr un o’r swyddi’n rhai ffug.

Llun: Jacques Chirac, arlywydd Ffrainc rhwng 1995 a 2007 (AP Photo/Srdjan Ilic-File)