Mae peryg y gallai miloedd o weithwyr British Airways fynd ar streic os na fydd y cwmni’n ail ystyried cynlluniau i arbed arian.

Mae undeb Unite yn bwriadu cynnal pleidlais ymhlith ei 14,000 o aelodau yn y maes ynglŷn â gweithredu diwydiannol ac maen nhw ac undeb y GMB yn cwrdd â phrif weithredwr BA, Willie Walsh, heddiw, i drafod eu pryderon.

Mae’r ddau undeb yn cynrychioli miloedd o weithwyr check-in a gweithwyr eraill sy’n delio gyda’r cyhoedd.

Maen nhw’n anhapus am gynnwys cytundebau newydd a fydd yn cael eu cyflwyno fis nesaf, ac yn honni fod BA am gael gwared a 10% o’r garfan yma o weithwyr – sy’n cyfateb i 1,000 o swyddi.

Cyfarfod

Roedd trafodaethau wedi dechrau rhwng gweithwyr a’r rheolwyr yn ystod yr haf, ond heb unrhyw lwyddiant.

Mae BA wedi dweud eu bod am gael gwared â 3,700 o swyddi drwy’r cwmni cyfan – ar ben y 2,500 o swyddi a aeth rhwng Mehefin 2008 a Mawrth 2009.