Mae’r Archifdy Cenedlaethol wedi cyhoeddi rhestr o’r bobol a’r llefydd yr oedd yr IRA yn ystyried eu targedu yn ystod anterth helyntion Gogledd Iwerddon yng nghanol yr 1970au.

Ymhlith y targedau posib, roedd Aelodau Seneddol, milwyr, heddweision, y gwersyll milwrol Sandhurst, a Phalas Buckingham.

Fe ddaeth heddlu’r Met o hyd i’r wybodaeth wedi cyrch mewn fflat yng ngogledd Llundain ym mis Rhagfyr 1975. O’r wybodaeth oedd yno, fe luniwyd rhestr 86 tudalen i’r Prif Weinidog Harold Wilson.

Dim ond rhan o’r ddogfen yma sydd wedi cael ei dangos heddiw; dyw’r wybodaeth am unigolion a allai fod wedi cael eu targedu – sy’n cynnwys Aelodau Seneddol, Aelodau o Dŷ’r Arglwyddi, heddweision a milwyr – ddim wedi cael ei chyhoeddi.

‘Ddim yn rhestr farwolaeth’

Does dim sicrwydd beth oedd union arwyddocâd y rhestr, ond roedd ysgrifennydd preifat yn y Swyddfa Gartref wedi nodi mewn llythyr gyda’r ddogfen yn dweud nad oedd yr wybodaeth ddim yn “rhestr farwolaeth.”

Dywedodd mai “gwybodaeth eilradd” oedd yn y rhestr a bod dim wedi ei gadarnhau ynglŷn â phwysigrwydd y rhestr na’r rheswm pam fod rhai enwau arni.

Digwyddodd y cyrch ar y fflat yn dilyn gwarchae 12 diwrnod pan fu pedwar aelod o’r IRA yn dal dau wystl yn gaeth yng ngogledd Llundain ym mis Rhagfyr 1975.

Cafodd Martin O’Connell, Edward Butler, Harry Duggan a Hugh Doherty eu harestio a’u cyhuddo am gyfres o ymosodiadau a llofruddiaethau rhwng 1974 a 1975.

Fe gawson nhw eu dedfrydu i garchar am oes ym mis Chwefror 1977 cyn cael eu rhyddhau ym mis Ebrill 1999 wedi Cytundeb Dydd Gwener y Groglith.

Y rhestr

Roedd y rhestr yn cynnwys:

• Amgueddfa Prydain
• Y Galeri Cenedlaethol
• Madame Tussauds
• Yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol
• Galeri’r Tate
• Prifysgol Coleg Llundain
• Y Gyfnewidfa Stoc
• Carchardai Brixton a Wormwood Scrubs
• Pwerdai
• Meysydd awyr
• Gorsafoedd dŵr
• Gweithfeydd carthffosiaeth