Mae Prydeiniwr a ffodd o’r Deyrnas Unedig er mwyn osgoi carchar wedi cael ei arestio yn India ar ôl i’r awdurdodau ddod o hyd i gorff ei ffrind mewn gwesty.
Roedd Ajay Kaushal, 50 oed, wedi gadael gwledydd Prydain bedair blynedd yn ôl pan oedd yn wynebu achos llys am herwgipio dyn busnes yn Burnley a gofyn am bridwerth o £100,000.
Yn ei absenoldeb fe gafodd Kaushal ei ddedfrydu i 15 mlynedd o garchar gan Lys y Goron Preston. Ym Mis Awst, roedd heddlu Lancashire wedi apelio am wybodaeth amdano gan ddweud ei fod yn un o’u targedau mwya;.
Yn awr, mae’r awdurdodau yn India ei fod wedi cael ei arestio ar hap yn Panaji, Goa, ar ôl i gorff ei ffrind gorau, William Scott, 39 oed, cael ei ffeindio mewn ystafell mewn gwesty ym mhentref Colva.
Tra bod yr heddlu yn ymchwilio i farwolaeth William Scott, fe ddaethon nhw o hyd i fanylion am orffennol Ajay Kaushal.
Fe ddywedodd y Dirprwy-arolygydd Umesh Gaonkar y byddai Kaushal yn cael ei drosglwyddo i heddlu Prydain.