Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi beirniadu safon Uwch Gynghrair rygbi Lloegr.

“Ers i mi ddod i fyw i Brydain, rwy’n credu mai dyma’r gwanaf y mae Uwch Gynghrair Guinness wedi bod o ran safon y clybiau,” meddai, gan ddweud nad oedd y gystadleuaeth rhwng y clybiau’n ddigon llym.

Fe ddaw ei ymosodiad wrth i glwb Sale wrthod rhyddhau’r mewnwr Dwayne Peel i chwarae dros Gymru yn erbyn Seland newydd ar 7 Tachwedd.

Yn ôl yr hyfforddwr, mae’r mewnwr bach o Lanelli yn awyddus iawn i chwarae tros ei wlad ond fod rheolau’r Uwch Gynghrair yn ei rwystro.

“Rwyf wedi siarad gyda Dwayne ddoe, ac mae’n rhwystredig iawn am y sefyllfa. Pe bai Sale neu Premier Rugby yn ei ryddhau, fe fyddai siawns ganddo i fod yn rhan o’r garfan i chwarae yn erbyn Seland Newydd.”

Eifion – beth sydd o’i le

Roedd ei feirniadaeth o’r Uwch Gynghrair yn fwy perthnasol fyth wrth drafod prop pen tynn Sale, Eifion Lewis Roberts, sydd heb ei gynnwys yn y garfan.

“Mae gyda ni bryder ynglŷn ag Eifion,” meddai Gatland. “R’yn ni wedi dweud bod angen iddo golli pwysau a gwella ei ffitrwydd er mwyn gallu chwarae rygbi rhyngwladol.

“R’yn ni’n ymwybodol bod ganddo botensial a gallai ddod i mewn i’r tîm yn y dyfodol.”