Mae un o ddiplomyddion yr Unol Daleithiau yn Afghanistan wedi ymddiswyddo mewn protest yn erbyn y rhyfel yn y wlad.
Mae’r rhyfel yn bwydo’r trais yn y wlad, meddai Matthew Hoh, cyn aelod o’r Marines a oedd wedi ymladd yn Irac. Ef yw’r cynta’ o’i fath i ymddiswyddo.
“Dw i bellach ddim yn deall beth yw’r rhesymau strategol tros bresenoldeb yr Unol Daleithiau yn Afghanistan, a dw i wedi colli ffydd ynddyn nhw,” meddai Matthew Hoh.
“Mae gennyf amheuon ynglŷn â’r strategaeth bresennol a’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol,” meddai, gan ddweud nad oedd yn ymddiswyddo oherwydd tactegau ond, yn hytrach, tros reswm a phwrpas yr ymladd.
Yn y cyfamser mae arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama wedi dweud na fydd yn cael ei frysio i newid strategaeth yr ymgyrch filwrol neu beidio”
Mae’n ystyried anfon hyd at 40,000 yn rhagor o filwyr i’r wlad i geisio rhoi pen ar y gwrthryfel sy’n cael ei arwain gan y Taliban.