Fe fydd gwledydd Prydain yn methu targedau o ran ynni glân a newid hinsawdd, meddai arbenigwyr.

Er bod y wasgfa ariannol yn llwyddo i leihau lefelau’r carbon deuocsid sy’n cael eu gollwng i’r awyr, fe fydd y Llywodraeth yn dal i fethu’r targed i leihau’r nwy o 34% erbyn 2010, yn ôl ymchwilwyr Econometreg Caergrawnt.

Yn ogystal â hyn, fe fydd y Llywodraeth yn methu targed yr Undeb Ewropeaidd i gynhyrchu 15% o ynni’r wlad drwy ddulliau ‘gwyrdd’.

Erbyn y flwyddyn nesaf, dim ond 6.5% o drydan Prydain fydd yn cael ei gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy fel ynni gwynt, biomas a phaneli solar.

Erbyn 2020, mae’r adroddiad yn rhagweld y bydd 15% o drydan gwledydd Prydain yn dod o ynni ‘gwyrdd’ – dim ond un rhan o dair o’r targed i gynhyrchu 15% o holl anghenion ynni’r Deyrnas Unedig trwy ddulliau felly.

“Mae’n rhaid canmol y Llywodraeth am osod y targedau hyn – ond mae angen dechrau sylweddoli fod gosod targed a’i gyflawni’n ddau beth hollol wahanol,” meddai’r Athro Paul Ekins, uwch-ymgynghorydd Econometreg Caergrawnt.

Pawb i droi’n llysieuwyr, meddai Stern

Mae un o arweinwyr y frwydr yn erbyn newid hinsawdd wedi galw ar bobol droi’n llysieuwyr i helpu taclo cynhesu byd eang.

Mae Nicholas Stern, awdur arolwg newid hinsawdd ddylanwadol yn 2006, yn dweud bod y methan sy’n dod o wartheg a moch yn rhoi “pwysau aruthrol” ar y byd a bod angen i bobol “ddechrau meddwl am yr hyn y maen nhw’n ei fwyta”.

Dywedodd wrth bapur ‘The Times’ na ddylai trafodaeth ar newid hinsawdd gael ei chyfyngu i un pwnc penodol fel bod yn llysieuwr, ond fod cig yn ddefnydd “gwastraffus o ddŵr” ac yn “creu llawer o nwyon tŷ gwydr”.

“Mae’n rhoi pwysau aruthrol ar adnoddau’r byd. Mae diet llysieuol yn llawer gwell” meddai Nicholas Stern.
Mae’n debyg fod methan yn nwy tŷ gwydr sydd 23 o weithiau’n fwy pwerus na charbon deuocsid ac mae rhai’n amcangyfrif mai da byw sy’n achosi 20% o effeithiau cynhesu byd-eang.