Mae chwech o fechgyn yn eu harddegau wedi’u harestio yn dilyn ymosodiad homoffobig ar heddwas yn Lerpwl dros y penwythnos.
Fe gafodd dau fachgen 15 blwydd oed o ardal Kirkdale, Glannau Mersi, eu harestio neithiwr ac roedd pedwar arall o’r un ardal wedi eu cymryd i’r ddalfa ynghynt yn y dydd.
Maen nhw’n cael eu holi am ymosodiad ar y Cwnstabl James Parkes yng nghanol dinas Lerpwl nos Sul. Doedd y plisman ifanc ddim ar ddyletswydd ar y pryd ac roedd yn cerdded gyda ffrindiau yn agos i glwb nos lle bydd pobol hoyw’n mynd.
Fe ddioddefodd sawl ergyd i’w benglog, i soced ei lygaid ac i asgwrn ei foch. Fe gafodd ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol ac mae ei gyflwr, yn ôl meddygon, yn “ddifrifol ond sefydlog”.
Mae’r heddlu hefyd yn archwilio lluniau teledu o gamerâu cylch cyfyng yn ardal yr ymosodiad.
‘Ymosodiad homoffobaidd’
“Ryden ni’n delio â’r ymosodiad hwn fel achos o gasineb homoffobaidd,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Glannau Mersi. “Mae’n ymddangos fod rhai dal heb ddysgu fod troseddau o’r fath yn annerbyniol.”
Roedd James Parkes wedi gweithio fel Swyddog Cymorth Cymunedol am gwpl o flynyddoedd cyn ymuno â heddlu Glannau Mersi fis Mai diwetha’.
Llun: James Parkes (Ar y dde)