Mae dau berson oedd yn cael eu holi am farwolaeth dyn 43 mlwydd oed o Rymni wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Fe gafodd y dyn 44 oed a’r wraig 29 oed eu harestio yn sgil darganfod corff y dyn mewn tŷ yn Hafod y Mynydd, Rhymni, am 3 o’r gloch fore Sadwrn.

Fe fydd ymchwiliad post mortem yn cael ei gynnal ar y corff yn fuan ac mae’r Heddlu Gwent yn apelio am gael clywed gan unrhyw un a oedd yn ardal Hafod yr Ynys, Rhymni, tua’r adeg honno ddydd Sadwrn neu sydd â gwybodaeth ddefnyddiol arall.

Y rhifau yw 101 neu a Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.