Mae dyn 40 oed wedi ei arestio ar ddrwgdybiaeth o gynorthwyo troseddwr ynlgŷn â llofruddiaeth y ferch ysgol Milly Dowler.
Cafodd ei arestio am 9.30am heddiw yng Ngorllewin Llundain ar ôl mynd i orsaf heddlu o’i wirfodd.
Mae’n cael ei gwestiynu holi ynglŷn â chael gwared ar gar Daewoo Nexia y mae’r heddlu yn credu a gafodd ei ddefnyddio i gludo corff y ferch 13 oed.
Diflannodd Amanda Dowler wrth gerdded adref o’r ysgol yn Walton-on-Thames ym mis Mawrth 2002.
Chwe mis yn ddiweddarach daethpwyd o hyd i’w hysgerbwd 30 milltir i ffwrdd yn Yateley Heath, Hampshire.
Chwilio
Yn gynharach y mis yma, fe fu’r heddlu’n chwilio llyn ger maes awyr Heathrow ar ôl cael neges bod y car yno. Ddaethon nhw ddim o hyd iddo.
Mae’r heddlu yn amau mai dyn o’r enw Levi Bellfield oedd yn gyfrifol am ladd Milly Dowler – roedd yn byw gerllaw ac mae eisoes yn y carchar am weddill ei oes am lofruddiaethau eraill.
Mae’n cyfaddef ei fod wedi gyrru’r car ond yn dweud mai cario deunydd adeiladu yr oedd.
Fe gafodd ei garcharau am lofruddio Marsha McDonnell, 19 ac Amelie Delagrange, 22, ac o geisio llofruddio Kate Sheedy, 18 oed.