Mae gan Ardd Botaneg Cymru ymwelydd anghyffredin yr wythnos hon.

Mae’r Tardis, peiriant amser y cymeriad teledu Dr Who, wedi glanio yng nghanol tyfiant Mediteranaidd yr ardd er mwyn hyrwyddo pennod ddiweddaraf y rhaglen – ‘The Waters of Mars’.

Roedd rhannau o’r bennod, gyda David Tennant yn rhan y Doctor, wedi eu ffilmio yn yr Ardd Fotaneg ym mis Chwefror ac fe fydd yn cael ei dangos fis nesaf.

Dywedodd David Hardy, Pennaeth marchnata’r ardd: “Mae pennod ddiweddaraf y rhaglen yn edrych yn hynod gyffrous.”