Mae dau ffrwydrad mawr wedi siglo canol prifddinas Irac gan ladd o leia’ 130 o bobol.

Fe ddigwyddodd adeg yr awr frys pan oedd pobol ar eu ffordd i’r gwaith ac mae o leia’ 500 arall wedi cael eu brifo yng nghanol Baghdad.

Mae’r wybodaeth wedi dod yn answyddogol gan yr heddlu, sydd heb hawl i siarad yn ffurfiol gyda’r wasg.

Roedd y bomiau wedi ffrwydro yn agos at swyddfa’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn Baghdad a gerllaw i swyddfa un o bleidiau Cwrdistan.

Dyma’r ymosodiad gwaethaf ers 19 Awst pan gafodd tua 100 o bobol eu lladd a channoedd eraill eu hanafu wedi ffrwydradau’n targedu swyddfeydd gweinyddiaethau tramor a chyllid.