Mae asgellwr Caerdydd, Peter Whittingham, yn dweud ei fod yn deimlad rhyfedd sgorio tair gôl yn y fuddugoliaeth yn erbyn Sheffield Utd yn Bramall Lane.

Erbyn hyn mae Whittingham yw prif sgoriwr yr Adar Glas ynghyd â Michael Chopra gyda 12 gôl yr un ac fe roedd ei dair gôl yn y fuddugoliaeth o 4-3 yn ddigon i guro record personol.

“Y mwyaf yr ydw i wedi eu sgorio yn ystod tymor yn y gorffennol yw naw, ac roeddwn i wedi anelu at guro hynny’r tymor yma”, meddai. “Roeddwn i am gyrraedd ffigurau dwbl, a dw i wedi gwneud hynny.”

Y gêm – o gôl i gôl

Mewn gêm gyffrous fe wnaeth Jay Bothroyd sgorio i roi’r Adar Glas ar y blaen, cyn i Darius Henderson unioni’r sgôr yn syth i’r tîm cartref.

Whittingham oedd y nesa’ i sgorio gyda chic o’r smotyn i wneud y sgôr yn 1-2 i Gaerdydd, cyn i Henderson sgorio eto i’r Blades.

Ond wedi dwy gôl arall gan Whittingham, roedd Caerdydd wedi sicrhau’r fuddugoliaeth a dal eu gafael er i James Harper sgorio i Sheffield Utd yn y munudau ola’.

Yn ystod amser ychwanegol roedd y tîm cartref yn meddwl eu bod wedi sicrhau gêm gyfartal pan wnaeth Stephen Quinn daro’r bêl i gefn y rhwyd- ond roedd e’ yn camsefyll.

Mae Caerdydd wedi symud i’r ail safle yn y Bencampwriaeth, un pwynt tu ôl i Newcastle Utd sydd ar frig y tabl.