Mae rheolwr Abertawe, Paulo Sousa, yn dweud y dylai’r Elyrch fod wedi ennill yn erbyn Blackpool yn y Stadiwm Liberty ddoe.
Er i’r tîm cartref reoli am gyfnodau hir o’r gêm, bu rhaid iddyn nhw fod yn hapus gyda’r canlyniad di-sgôr.
“Roedd yn siomedig iawn i beidio sicrhau’r fuddugoliaeth”, meddai Sousa. “Ond dw i’n dal i fod yn falch iawn o berfformiad y chwaraewyr.
“Dw i wastad wedi bod yn ffyddiog o allu’r tîm ac maen nhw wedi profi hynny i mi gyda’r perfformiad yna.”
Doedd methiant Abertawe i sgorio ddim yn poeni Sousa oherwydd bod y tîm yn parhau i greu cyfleoedd.
Cyfleoedd
Ond doedd y gŵr o Bortiwgal ddim yn hapus gyda phenderfyniad y dyfarnwr i beidio â rhoi cic o’r smotyn i’r Elyrch ar ôl i Charlie Adam dynnu’r ymosodwr Craig Beattie i lawr yn y cwrt cosbi.
Fe gafodd Alan Tate a Darren Pratley gyfleoedd i ennill y gêm i Abertawe, gyda Jason Euell yn agos at sgorio i Blackpool hefyd.
Fe fydd golwr Abertawe, Dorus de Vries, yn hapus iawn i atal gwrthwynebwyr rhag sgorio am yr wythfed tro mewn 14 gêm y tymor hwn.
Dyw Abertawe ddim wedi colli mewn wyth gêm yn y Bencampwriaeth, a ganddyn nhw y mae’r record amddiffynnol gorau yn y gynghrair.