Y Gleision a enillodd y darbi fawr o flaen torf fwya’r tymor ar eu tomen eu hunain.
Ceisiadau yn gynnar iawn ar ddechrau’r naill hanner a’r llall oedd yr allwedd wrth iddyn nhw guro’r Gweilch o 20-12.
Ar un adeg, roedden nhw 17-0 ar y blaen ac, er i’r Gweilch gryfhau a phwyso yn yr ail hanner, roedd y Gleision yn rhy gry’ yn y diwedd.
Yr asgellwr Tom James a gafodd y cais cynta’ gan guro Tommy Bowe ac esgid Ben Blair yn sgorio gweddill y pwyntiau cynnar.
Martyn Williams
Y blaenasgellwr Martyn Williams, yn ei gêm gynta’ y tymor hwn, a greodd yr ail, gan gymryd y bêl o sgarmes symudol ac ochrgamu heibio i Bowe cyn ei rhoi hi i’r mewnwr Gareth Cooper i groesi.
Erbyn hynny, roedd capten y Gweilch, Ryan Jones, wedi dod i’r cae ac fe wnaeth wahaniaeth mawr o gefn y sgrym.
Aeth pethau’n fwy bywiog fyth pan symudodd Shane Williams o’r asgell i safle’r mewnwr ac roedd ganddo ef a Jones ran yng nghais y Gweilch, gyda chyfres o symudiadau o hanner ffordd bron yn gorffen gyda Tommy Bowe yn croesi yn y gornel.
Roedd yna gais hwyr i Jerry Collins i’r Gweilch hefyd ond roedd maswr y Gleision, Sam Norton-Knight, wedi cael gôl adlam yn y cyfamser ac roedd y Gweilch wedi colli’r bêl yn rhy aml yn y lein i allu gwneud i’w pwysau dalu.
Roedd yna fwy na 16,300 yn gwylio – record i stadiwm newydd y Gleision. Roedd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, yn eu plith.
Llun: Martyn Williams – rhan allweddol yn ail gais y Gleision