Mae dyn a dynes yn y ddalfa ar ôl i ddyn farw yn oriau mân fore heddiw yn Rhymni.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn Hafod-y-Mynydd tua thri o’r gloch y bore a dod o hyd i gorff y dyn.

Does dim esboniad ynglŷn ag achos y farwolaeth eto ond mae’r Crwner wedi cael gwybod ac fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal.

Fe gadarnhaodd Heddlu Gwent fod dyn 44 oed a gwraig 29 oed wedi cael eu harestio a’u bod yn cael eu holi.

Maen nhw wedi apelio am gael clywed gan unrhyw un oedd yn ardal Hafod-y-Mynydd yr adeg honno o’r nos neu am unrhyw wybodaeth a allai eu helpu i ddatrys yr achos.

Y rhifau ffôn yw 101 ar gyfer Heddlu Gwent neu 0800 555111 ar gyfer Taclo’r Tacle.