Fe fydd Rali Prydain yn dod i Gymru eto’r flwyddyn nesa’ wrth i Lywodraeth y Cynulliad a’r trefnwyr ddod i gytundeb ar nawdd.

Roedd peryg mai’r rali sy’n digwydd ar hyn o bryd fyddai’r ola’ wedi i’r Llywodraeth fygwth rhoi’r gorau i’w noddi.

Y rali yw cymal ola’ Pencampwriaeth Ralïo’r Byd ond roedd y trefnwyr, Inernational Motor Sports Ltd., wedi sôn am ei chynnwys bob yn ail flwyddyn yn hytrach nag yn flynyddol.

Bellach, fe ddaeth cadarnhad y bydd hi’n rhan o’r Bencampwriaeth eto’r flwyddyn nesa’ ac mae’r nawdd wedi’i sicrhau.

Gwarchod

“Pan gododd amheuon tros statws y rali yn 2010, fe symudon ni i warchod ein sefyllfa gytundebol ac arian trethdalwyr,” meddai’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones.

“Bellach, a’r amheuon wedi mynd, rydan ni’n falch o allu parhau i ddod â’r digwyddiad yma i Gymru, efo’r holl fendithion y mae’n eu cynnig i bobol ac economi Cymru.”

Roedd Cadeirydd y cwmni ralïo. Alan Gow, hefyd yn falch. “Dw i’n hyderus,” meddai, “y gallwn adeiladu ar lwyddiant y rali a chreu digwyddiad gwirioneddol drawiadol i bobol a busnesau Cymru.”