Mae Arlywydd Obama wedi cyhoeddi stad o argyfwng tros ffliw moch yn yr Unol Daleithiau.
Mae’r Tŷ Gwyn wedi cadarnhau heddiw fod Barack Obama wedi arwyddo proclamasiwn sy’n caniatáu i swyddogion meddygol osgoi rhai gofynion ffederal.
Mae swyddogion wedi disgrifio’r symudiad fel ‘datganiad cyn corwynt’, gyda’r clefyd yn gwaethygu yn America a mwy na 1,000 o farwolaethau wedi bod yn gysylltiedig â’r ffliw.
Mae Awdurdodau iechyd yn dweud bod tua 100 o blant wedi marw o’r ffliw H1N1.