Fe fydd ymchwiliad Syr Thomas Legg i lwfansau Aelodau Seneddol yn costio mwy na £1 miliwn.

Fe ddatgelodd Comisiwn Tŷ’r Cyffredin hefyd bod 260 o Aelodau Seneddol bellach wedi talu £637,000 o lwfansau’n ôl i awdurdodau’r Senedd.

Ychydig tros £1.1 miliwn yw’r ffigwr ar gyfer ymchwiliad Syr Thomas, sydd wedi codi gwrychyn rhai ASau trwy osod uchafsymiau ar lwfansau tros y pum mlynedd diwetha’.

Ddoe fe fu raid i Syr Thomas ymddiheuro i’r cyn-Ganghellor Ken Clarke am ofyn am ormod yn ôl.

Fe ddaeth yr wybodaeth mewn atebion seneddol i’r AS Norman Baker gan gynrychiolydd y Comisiwn.

Llun: Syr Thomas Legg (Gwifren PA)