Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cael clywed yn ffurfiol fod dau berson arall yng Nghymru wedi marw ar ôl cael ffliw moch.

Ac mae’n ymddangos fod un person arall o Gymru wedi marw dramor ond does dim rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi am yr un ohonyn nhw.

Fel arfer, does dim sicrwydd mai ffliw’r moch oedd yn gyfrifol am y marwolaethau ond mae lefel y salwch wedi codi rhywfaint eto yn ystod yr wythnos ddiwetha’.

Yn ôl penaethiaid y Gwasanaeth Iechyd mae lefelau ffliw yn uwch nag y bydden nhw’n ei ddisgwyl yr adeg yma o’r flwyddyn. Yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg y mae’r canrannau ucha’ o bobol yn mynd i weld y doctor oherwydd y ffliw.

Ar hyn o bryd, mae 42 o bobol yn yr ysbyty yn gysylltiedig â ffliw’r moch ac o leia’ saith o’r rheiny’n cael gofal dwys. Mae gan lawer ohonyn nhw broblemau iechyd eraill.