Mae’r BBC yn dweud bod protestwyr a’r heddlu wedi bod yn gwrthdaro y tu allan i ganolfan y Gorfforaeth cyn i arweinydd y BNP ymddangos ar raglen deledu.
Yn ôl y BBC yn Llundain, roedd tua 25 o brotestwyr wedi llwyddo i dorri trwy gat a mynd i mewn i’r ganolfan deledu, cyn i’r heddlu eu dal.
Yn ôl llefarydd ar ran y Gorfforaeth, fe gafodd y protestwyr eu symud yn gyflym ond mae cannoedd o bobol yn gwrthdystio y tu allan hefyd.
Mae yna ddadlau mawr wedi bod tros benderfyniad y BBC i wahodd Nick Griffin, arweinydd y blaid asgell dde eithafol, i ymddangos ar y rhaglen banel wleidyddol, Question Time.
Beirniadol
Mae Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, ymhlith y rhai sydd wedi bod fwya’ beirniadol, ond fe fu penaethiaid y BBC yn amddiffyn y penderfyniad.
Mater i wleidyddion nid darlledwyr oedd gwahardd pleidiau gwleidyddol, meddai’r Cyfarwyddwr Cyffredinol ym mhapur y Guardian.
Mae Nick Griffin wedi dweud ei fod yn “edrych ymlaen yn eiddgar” at y cyfle i gael y sylw mwya’ erioed i syniadau’r BNP ac fe ddywedodd wrth wasanaeth newyddion Sky y byddai’n gwneud ei orau i fynd i mewn i’r ganolfan deledu ar gyfer y rhaglen.
Llun: Wedi arfer – Nick Griffin yn osgoi protestwyr ynghynt eleni