Mae tua phedwar miliwn o sigaréts anghyfreithlon a ffug wedi cael eu ffeindio mewn llwyth o deganau ym Mhorthladd Caerdydd.
Fe ddaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi o hyd i’r sigaréts brynhawn ddoe, ac maen nhw’n amcangyfrif bod y cyfan werth £850,000.
Maen nhw hefyd wedi archwilio pedwar tŷ yn y Barri i gasglu tystiolaeth, sy’n cynnwys cyfrifiaduron.
Fe gafodd pedwar dyn eu harestio a’u rhyddhau ar fechnïaeth tan 21 Ionawr 2010.
Rhybudd
“Rwy’n hapus iawn ein bod wedi atal llwyth mor fawr rhag cael ei ddosbarthu ar strydoedd de Cymru,” meddai Andrew Pavlinic, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Ymchwiliadau Troseddol adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Ac fe rybuddiodd bobol rhag ceisio manteisio ar nwyddau anghyfreithlon: “Efallai bod y cynnyrch yn ymddangos yn fargen, ond mae eu prynu’n golygu masnachu gyda’r troseddwyr.
“Dylai pobol feddwl yn ofalus cyn prynu’r cynnyrch, gan eu bod yn helpu i gynnal troseddau eraill, megis smyglo cyffuriau.”