Mae Llywodraeth y Cynulliad am roi arian i ysbytai Cymru brynu rhagor o beiriannau anadlu i ddelio gyda ffliw moch.
Mae’r salwch yn gallu gwaethygu problemau anadlu ac mae disgwyl i fwy a mwy o bobol orfod mynd i’r ysbyty oherwydd y fliw.
Fe fydd bron £1.5 miliwn yn cael ei fuddsoddi i ddarparu 65 o’r peiriannau i unedau gofal dwys.
Pe bai angen, mae yna gynllun hefyd i ddyblu nifer y gwelyau gofal critigol sydd ar gael yn yr ysbytai, ynghyd â chynyddu staff arbenigol.
‘Paratoi’n drylwyr’
“Wrth i nifer achosion ffliw moch gynyddu, mae’n debygol y bydd yna gynnydd yn nifer y bobol sy’n dioddef o gymhlethdodau neu symptomau difrifol,” meddai Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd.
“R’yn ni wedi paratoi’n drylwyr i ddelio gyda’r firws, ac wedi cydweithio gyda chyflenwyr i sicrhau bod y peiriannau anadlu yn cael eu dosbarthu cyn gynted ag y bo modd”, meddai Dr Tony Jewell, Prif Swyddog Meddygol Cymru.
Llun (Gwifren PA)