Fe fu farw myfyriwr 19 oed trwy grogi ei hun ar ddamwain ar ôl noson allan yn dathlu gorffen arholiadau.

Clywodd cwest bod David Harris, o Gasnewydd, newydd orffen cyfres o arholiadau ar gyfer ei radd fusnes ym Mhrifysgol Portsmouth pan gafwyd e’n farw yn ei ystafell wely yn Southsea, Hampshire, ar Ionawr 24 eleni.

Roedd David Harris, a oedd wedi’i ddisgrifio fel “dipyn o gymeriad”, wedi bod i’r dafarn gyda ffrindiau’r pnawn cynt ac wedi parhau i yfed gyda nhw gartref tan oriau mân y bore.

Fe ddaeth ei gydletywr Michael Sparks o hyd iddo’r prynhawn wedyn yn gorwedd ar y llawr gyda thei o amgylch ei wddf wedi ei glymu i’r drws.

Galwyd ambiwlans ond methodd ymdrechion i’w adfywio ac fe fu farw o anafiadau wedi’u hachosi gan grogi.

‘Hwyliau da’

Dywedodd Michael Sparks wrth y gwrandawiad nad oedd David Harris wedi dangos unrhyw arwydd ei fod yn ddigalon neu’n poeni.

“Roedd e mewn hwyliau da iawn. Roedd newydd orffen ei arholiadau, roedd hi’n noson dda,” meddai.

Dywedodd ei fam Lynn Harris nad oedd ganddo bryderon ariannol nac emosiynol, ac wedi gwneud yn dda yn ei arholiadau, gan ennill ei radd.

“Roedd e’n gwneud yn dda iawn yn y Brifysgol. Roedd e’n mwynhau ei hun,” meddai.
Dywedodd ei dad bod ei fab yn “dipyn o daredevil” ac yn hoffi “dangos ei hun”.

Fe gofnododd y crwner David Horsley ddedfryd o farwolaeth ddamweiniol: “Does dim esboniad ond ei fod wedi bod yn chwarae o gwmpas mewn rhyw ffordd am ei fod wedi cael gormod i’w yfed ac nad oedd yn gwybod beth oedd yn ei wneud.”