Fe fydd streic bost Brydeinig yn dechrau bore fory, er gwaetha’ 30 awr o drafodaethau rhwng yr undeb a’r Post Brenhinol.

Fe gadarnhaodd Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, y CWU, y byddai’r streic yn dechrau am bedwar o’r gloch y bore.

Gyrwyr a gweithwyr mewn canolfannau didoli fydd yn gadael y gwaith fory, gyda’r postmyn eu hunain yn streicio y diwrnod wedyn,

O’r dechrau, doedd neb wedi bod yn rhy obeithiol y byddai trafodaethau’n llwyddo i atal y streic sydd ynglŷn ag amodau gwaith a chyflog, wrth i’r Post Brenhinol geisio newid y drefn.

Er hynny, meddai Dirprwy Ysgrifennydd yr Undeb, Dave Ward, roedd y ddwy ochr wedi cytuno ar sawl pwynt ond fod ymyrraeth gan benaethiaid y Post wedi codi amheuon ar ochr y CWU.

‘Rhy wan’

Roedd yna wrthdaro tros y streic yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw wrth i arweinydd y Ceidwadwyr, David Cameron, gyhuddo’r Prif Weinidog o fod yn rhy wan ac o blygu i’r undebau.

Mae Gordon Brown wedi annog y ddwy ochr i geisio setlo’r anghydfod gan y byddai streic yn “wrthgynhyrchiol”. Roedd David Cameron yn gwneud pethau’n waeth, meddai.

Llun: Trwydded CCA2.0