Mae Gordon Brown yn cynnig tua £800 miliwn i Lywodraeth Gogledd Iwerddon ar gyfer datganoli’r cyfrifoldeb dros gyfraith a threfn i Gynulliad Stormont.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog heddiw ei fod yn cynnig cynllun i arweinwyr Llywodraeth glymblaid Gogledd Iwerddon, a fydd yn sicrhau sylfaen ariannol i sicrhau “cam olaf” datganoli yno.
Mae Gordon Brown wedi bod yn cynnal cyfres o drafodaethau gyda Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon, Peter Robinson, o Unoliaethwyr Democrataidd y DUP, ac â Martin McGuinness, arweinydd Sinn Fein, y Dirprwy Brif Weinidog.
Roedd ofnau fod y glymblaid ar chwâl ar ôl anghytuno ynglŷn ag amseru datganoli cyfraith a threfn ac roedd yr Unoliaethwyr yn cwyno nad oedd digon o adnoddau ar gael.
Mae Sinn Fein wedi bod yn galw am drosglwyddo’r cyfrifoldeb yn syth. Yn ôl Sinn Fein gwneud esgusodion yr oedd Peter Robinson er mwyn ceisio tawelu llawer o’i gefnogwyr sydd yn erbyn datganoli pellach.
Cam olaf
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, dywedodd Gordon Brown fod yn rhaid i “gam olaf datganoli” yng Ngogledd Iwerddon ddigwydd.
“Ein nod yw gweld Gogledd Iwerddon sy’n fwy llewyrchus, diogel a heddychlon” meddai.
Rhoddodd sicrwydd hefyd y byddai’r Trysorlys yn defnyddio arian sydd wrth gefn i gefnogi Gogledd Iwerddon petai argyfwng diogelwch mawr yn digwydd yno.
Manylion y cynllun
Mae’r cynllun a gyhoeddodd heddiw yn cynnwys s arian fydd ar gael i’r heddlu, y llysoedd a gwasanaeth y carchardai yng Ngogledd Iwerddon.
Mae’r cynllun hefyd yn dweud y bydd miliynau o bunnoedd ar gael ar gyfer achosion sy’n ymwneud â hanes treisgar y dalaith – megis hawliau iawndal am niwed corfforol.