Mae swyddogion etholiadol Afghanistan wedi cyhoeddi y bydd yna ail rownd o bleidleisio yn cael ei gynnal yn yr etholiad arlywyddol, ar 7 Tachwedd.

Fe fydd trigolion Afghanistan yn cael pleidleisio am naill ai’r arlywydd presennol, Hamid Karzai neu Abdullah Abdullah.

Daw hyn ddiwrnod ar ôl i Gomisiwn Cwynion Etholiadol rhyngwladol ddod o hyd i dystiolaeth o dwyll mawr yn y bleidlais gynta’.

Yn ôl y Comisiwn, roedd problemau mewn cannoedd o orsafoedd pleidleisio a hynny’n golygu bod pleidlais yr enillydd, Hamid Karzai, wedi syrthio’n sylweddol.

Syrthio

Yn lle cael 54% o’r bleidlais, mae ei gyfran bellach wedi syrthio i 48% – ddau bwynt yn brin o’r 50% sydd ei angen i ennill yn y rownd gynta’.

Yn ôl y Comisiwn, mae cyfran yr ail ymgeisydd, Abdullah Abdullah, wedi codi o 28% i 31%.

Dywedodd Azizullah Lodin, cadeirydd Comisiwn Etholiadol Annibynnol Afghanistan, nad oedd y comisiwn am adael pobol Afghanistan mewn unrhyw fath o ansicrwydd.

Mae Hamid Karzai wedi derbyn casgliadau’r Comisiwn a chefnogi ail rownd o bleidleisiau – gan ei fod yn dod o lwyth mwya’r wlad, mae disgwyl mai ef fydd yn ennill y tro nesa’ hefyd.