Mae doctor priod sy’n hanu o Gaerffili wedi cael ei rybuddio ei fod yn wynebu carchar am geisio rhoi cyffuriau i’w gariad er mwyn ei chael i erthylu.
Fe gafwyd Dr Edward Erin, 44, yn euog o ddau gyfri’ o geisio rhoi’r cyffuriau i Bella Prowse, 33 oed o Brixton, a oedd yn ysgrifenyddes ysbyty.
Roedd hynny ar ôl iddi ddweud wrth y meddyg, sy’n dad i ddau o blant, ei bod yn feichiog ar ôl perthynas rhwng y ddau adeg y Nadolig 2007.
Fe benderfynodd rheithgor ei fod wedi ceisio rhoi cyffuriau yng nghoffi Bella Prowse yn un o gaffis Starbucks yn Paddington, Llundain, ac mewn sudd oren y diwrnod wedyn.
Dechrau amau
Fe glywodd y llys na wnaeth Bella Prowse yfed y diodydd hynny ar ôl dechrau amau fod rhywbeth o’i le.
Roedd Edward Erin, sydd wedi bod ym maes fferylliaeth ers dros 20 mlynedd, wedi honni bod Bella Prowse wedi rhoi’r cyffuriau yno ei hun oherwydd ei bod eisiau erthyliad.
Er gwaethaf ymdrechion Erin, fe gafodd Bella Prowse, 33 oed, fabi iach ym mis Medi, 2008.
Bydd Edward Erin yn cael ei ddedfrydu 16 Dachwedd.
Llun- Gwifren PA