Yn y dyfodol fe fydd pobol oedrannus yn cael fframiau cerdded sy’n siarad, anifeiliaid anwes robotig a byrddau coffi rhyngweithiol.
Dyna’r atebion sy’n cael eu cynnig gan Ganolfan arbennig ym Mhrifysgol Caerefrog sy’n ymchwilio i dechnoleg a all helpu yn y cartref.
Yn ôl arbenigwr o Gymru, sy’n ymgynghorydd i’r ganolfan, fe fydd y rheiny yn helpu’r bobol eu hunain ac yn arbed arian i gartrefi gofal a’r awdurdodau cyhoeddus.
“Efallai fod rhai o’r pethau hyn yn swnio’n rhyfedd ar hyn o bryd, ond pwy fyddai wedi meddwl 20 mlynedd yn ôl y byddai’r henoed yn defnyddio gemau cyfrifiaduron i wneud ymarfer corff?” meddai Dr Kevin Doughty o Gaernarfon.
Yn ystod y pymtheng mlynedd nesa’, mae disgwyl i nifer y bobol sydd dros 65 oed gynyddu o fwy na thair miliwn – felly, bydd nifer y bobol sydd â chyflyrau fel dryswch yn cynyddu hefyd.
‘Cath’ sy’n larwm hefyd
Ymhlith y technolegau newydd, mae:
• Anifeiliaid anwes robot fydd yn cynnig cwmnïaeth a chyfeillgarwch ond hefyd yn larymau rhag tân, nwy a llifogydd.
?• Byrddau coffi fydd yn dosbarthu moddion ac yn atgoffa’r bobol oedrannus i’w cymryd.
• Fframiau cerdded sy’n siarad ac yn atgoffa’r henoed ble maen nhw’n mynd.
• Sgriniau mewn ceginau sy’n argymell ryseitiau ac yn cynhyrchu rhestrau siopa.
Eisoes, mae’r Adran Iechyd wedi dweud fod £75 miliwn y flwyddyn yn cael ei wario ar dele-ofal i’r henoed – mae hynny’n golygu peiriannau sensor a thechnoleg o bell.
Llun: Monitro lluniau teleofal (Canolfan Technoleg at Ddefnydd y Cartrref, Prifysgol Caerefrog)